-

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Bydd yn gwneud i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a gyda’i gilydd, ceisio atal problemau a chymryd agwedd fwy cydgysylltiedig.

Bydd hyn yn ein helpu i greu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.
I wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith.