-

Event Information

Date
17/10/2024

Our Town: Parthian Book Event with Lloyd Markham, Joshua Jones & Georgia Carys William – Neath Town Hall

Tri awdur llwyddiannus sydd wedi ysgrifennu am drefi eu mebyd. Bydd yr awduron yn trafod eu perthynas gyda, a sut mae hyn yn amlygu ei hun yn eu gwaith.

Ganwyd Lloyd Markham yn Ne Affrica. Treuliodd ei blentyndod yn Zimbabwe cyn symud i ymgartrefu yn ne Cymru yn un deg tri oed. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf Bad Ideas\Chemicals restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn a gwnaeth y nofel ennill gwobr Betty Trask. Derbyniodd Lloyd fwrsari Llenyddiaeth Cymru er mwyn datblygu ei ail nofel Fox Bites. Mae’n hoff o greu a gwrando ar gerddoriaeth ryfedd.

Awdur cwîar ac awtistig, o Lanelli yw Joshua Jones. Mae’i waith wedi’i gyhoeddi gan Poetry Wales, Broken Sleep Books, Gutter ac eraill. Mae Joshua yn un o Awduron Addawol Llenyddiaeth Cymru a chafodd ei gasgliad o straeon byrion Local Fires ei enwebu am Wobr Dylan Thomas yn 2024.

Cartref Georgia Carys Williams yw Abertawe. Cyrhaeddodd ei chasgliad o straeon byrion Second-hand Rain restr fer Gwobr Stori Fer Sabotage a rhestr hir Gwobr Edge Hill a Gwobr Ryngwladol Frank O’Connor. Unspeakable Beauty yw ei nofel gyntaf hi.

6pm at Neath Town Hall