-

Event Information

Date
19/10/2024

Dylan Arnold: Cymru Gudd – Neuadd y Dref Castell-nedd

Mae hwn yn ddigwyddiad Cymraeg.

Y ffotograffydd Dylan Arnold yn trafod ei lyfr Cymru Gudd sy’n adrodd hanes adeiladau segur ac adfeilion anghofiedig.

Llyfr ffotograffiaeth am yr amser a fu yw Cymru Gudd. Ynddo ceir lluniau a hanesion am leoliadau difyr ac unigryw yng Nghymru – yn adeiladau segur ac adfeilion anghofiedig. Mae’r lluniau yn artistig ac atmosfferig a cheir hanes personol i bob un. Ceir straeon am y bobl oedd yn byw neu’n gweithio yn y llefydd hyn, hanes eu bywydau ac atgofion rhai fu’n ymwneud â’r safleoedd.

3pm – Neuadd y Dref Castell-nedd