-

Event Information

Date
19/10/2024

Euron Griffith – A Casual Life in 6 T-Shirts – Neuadd y Dref Castell-nedd

Mae Euron Griffith wedi dweud celwyddau wrth David Cassidy, wedi gweld ei freuddwydion o fod yn seren bop gael e chwalu (yn llythrennol) gan y dorf yn Glastonbury, ac wedi cael ei fygwth gan ddryll…

Ffan o gerddoriaeth gyfoes o oedran ifanc, mae llyfr Euron A Casual Life yn archwilio perthynas yr awdur gyda chwech crys-T cofiadwy wisgodd Euron dros y blynyddoedd.

Yn cychwyn gyda gig trychinebus cyntaf (ac olaf) ei fand cyntaf ac yna’n olrhain y daith at ennill cytundeb recordio, mae’r llyfr yn adrodd hanes Euron yn tyfu i fyny yn y gogledd yn y dyddiau cyn y we (pan nad oedd hyd yn oed y signal radio yn teithio heibio’r mynyddoedd) a’i ddyddiau’n mynychu clybiau llawn mw gyn Soho. Dyma hanes sut mae cerddoriaeth yn treiddio i’n enaid ni a’n harwain ni drwy’r dyddiau du.

4.30pm – Neuadd y Dref Castell-nedd