-

Cyngor Tref Castell-nedd

Sefydlwyd Cyngor Tref Castell-nedd ym 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel yr awdurdod olynol i’r hen Gyngor Bwrdeistref Castell-nedd, gan barhau â’r ddarpariaeth a sefydlwyd o dan Ddeddf Corfforaethau Dinesig 1935 ar gyfer “Cyngor Tref”. O ganlyniad i Orchymyn (Cymunedau) Castell-nedd 1982, a ddaeth yn weithredol ar 1 Ebrill 1983, gwnaed newidiadau i ffiniau llywodraeth leol gan alluogi Llansawel, a wasanaethwyd yn flaenorol gan Gyngor Cymuned Castell-nedd, i ffurfio Cyngor Cymuned yn ei rinwedd ei hun.

Ar 5 Mawrth 1992 penderfynodd Cyngor Cymuned Castell-nedd fabwysiadu statws Cyngor Tref Castell-nedd ac o ganlyniad roedd gan y Cadeirydd hawl i gael ei adnabod fel Maer y Dref.

Swyddogaethau’r Cyngor

Mae’r Cyngor yn cynnwys wyth ward gyda phedwar ar bymtheg o Gynghorwyr yn cynrychioli poblogaeth o tua 18,600. Mae’r Cyngor yn gyfrifol am Ganolfan Gymunedol Castell-nedd; Canolfan Gymunedol Cimla; Canolfan Gymunedol Melincryddan; Hen Neuadd y Dref; llochesi bws; seddi ar ochr y ffordd; rhandiroedd; llwybrau troed/llwybrau ceffylau; Castell Nedd a gerddi ac Elusennau.

Yn ogystal mae’r Cyngor yn noddi nifer o gystadlaethau bob blwyddyn gan gynnwys y Gystadleuaeth Gardd a Rhandir ac arddangosfa Ffenestr Siop Nadolig. Mae’r Cyngor yn aelodau gweithgar o Gonsortiwm Busnes Castell-nedd ac yn helpu i ddarparu Gŵyl Castell-nedd bob haf, sy’n cynnwys cyngherddau, arddangosiadau ac arddangosfeydd. Mae hefyd yn llwyr gefnogi Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd a gynhaliwyd ym mis Hydref

Ovw Logo

Npt College Logo

Neath Town Centre Consortium Logo

Gwyn Hall Logo

Npt Libraries Logo

Nptcbc Logo

Big Lottery Funded Logo

Mayoress Appeal Logo