-

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (“Y Ddeddf”) yn rhoi hawl mynediad cyffredinol i bob math o wybodaeth gofnodedig a gedwir gan Awdurdodau Cyhoeddus, yn amodol ar eithriadau penodedig, ac yn gosod nifer o rwymedigaethau ar awdurdodau cyhoeddus diffiniedig. Rhaid hysbysu unrhyw berson sy’n gwneud cais i awdurdod cyhoeddus am wybodaeth a yw’r wybodaeth honno gan yr awdurdod cyhoeddus ac, yn ddarostyngedig i eithriadau, rhaid rhoi’r wybodaeth honno iddo.

Bydd y Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Bydd pob gohebiaeth lle sefydlir mai’r Gymraeg yw dewis iaith y person, yn cael ei chyfieithu i’r Gymraeg pan ofynnir amdani.